slide 1
Image Slide 2

VIEW O’R
FFAIR

Mae teulu Noah Robinson wedi bod yn gweithredu busnes hamdden yn y Rhyl ers tair cenhedlaeth ac mae’n credu bod pethau’n edrych yn well i’r dref honno…

“Daeth fy rhieni a fy mrodyr yma ym 1950. Roeddem yn y busnes ffair ac roedd y Rhyl yn gyrchfan poblogaidd iawn ar y pryd,” meddai Noah. “Syrthiodd fy rhieni mewn cariad â’r dref a’r ardal a daeth yn gartref newydd i ni.”

Roedd y teulu yn un o arloeswyr y safle Ocean Beach a oedd yn nodweddiadol o dref glan môr traddodiadol gyda stondinau a chiosgau cyn iddynt gyflwyno’r helter skelter cyntaf erioed i’r Rhyl ym 1960. Cyn hir cafodd rhagor o reidiau ffair eu hychwanegu wrth i’r busnes fynd o nerth i nerth.

Ymunodd Noah â’r busnes teuluol pan oedd yn ifanc iawn. “Cefais fy ngeni ym 1952 yn y Rhyl ac fy swydd gyntaf erioed oedd helpu allan ar benwythnosau yn ystod yr haf yn rhoi matiau allan i blant fynd ar yr helter skelter. Dim ond 8 oed oeddwn i ar y pryd felly gallech ddweud fy mod i wedi bod yn y busnes ffair bellach ers 50 mlynedd a mwy.”

Mae Noah wedi gwirioni fod ei ddau o blant wedi penderfynu parhau â’r busnes teuluol, ac yn awr, yn ogystal â reidiau ffair mae gan y busnes atyniadau hamdden eraill a pharc carafanau yn yr ardal. “Nid oes dim yn bwysicach na’r dref hon i mi a fy nheulu,” meddai Noah. Mae ein bywoliaeth a’n dyfodol yn dibynnu ar ddyfodol y dref a sut mae’n datblygu.”

Ar ôl cyfnod heriol i’r Rhyl, mae Noah yn gweld y dyfodol yn llawn gobaith o’r newydd. “Mae’r Cyngor wedi cymryd camau mawr ac mewn llawer o ffyrdd bychain wedi helpu i wella pethau ar gyfer busnesau ac ymwelwyr. Credaf bod gweledigaeth glir yn awr a bod dealltwriaeth am yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod y dref yn llwyddiant. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am y cynlluniau. Mae Neptune a’r Cyngor wedi gwrando ac wedi meddwl. Bydd y dref glan môr yn llawer mwy deniadol a chyda mwy o bethau i’w gwneud a’u profi.”

Mae Noah yn credu mai’r allwedd i adfywio yw adeiladu ar asedau craidd y Rhyl. “Mae gennym y môr, y traeth glân prydferth a thaflwch ychydig o haul a byddwch bob amser yn denu teuluoedd. Mae’n fan cychwyn da iawn, felly mae’n rhaid i ni adeiladu ar hynny a chydbwyso cynnig glan môr traddodiadol gyda rhai syniadau ac atyniadau newydd. Pan fo gennych y pethau sylfaenol, gallwch bob amser gael y gweddill yn gywir.”

Nid yw’n syndod ei fod yn credu bod yn rhaid i’r pethau sylfaenol gynnwys ffair. “Mae’n rhan hanfodol o’r profiad glan y môr. Mae plant wrth eu bodd. Mae’n ffres, cyffrous a bydd wastad yn apelio. Rydym wedi bod yma ers tair cenhedlaeth, a byddai’n braf meddwl y gallwn fod yma am dair cenhedlaeth arall hefyd.”

YN ÔL I’R PRIF DUDALEN