Mae Simon sy’n rhedeg Ysgol a Chlwb Barcudfyrddio gynlluniau a gweledigaeth mawr i wneud y Rhyl yn gartref i farcudfyrddio yn y DU, gan ddenu ymwelwyr a chystadleuwyr rhyngwladol i gymryd rhan ar ddyfroedd môr Iwerddon.
A phan fydd y gwynt yn gostwng, mi fydd o’n ailgyfeirio’r ymwelwyr i’r parc tonfyrddio, neu at y cyfleusterau hyfforddi ar ochr y tir gan ei fod yn credu y bydd yr atyniadau hyn yn gwneud y Rhyl yn gyrchfan na ellir ei fethu.
`Mae gennym gyfle gwych yma. Dwi eisiau iddo fo fod yn gyfleuster unigryw – ac yn flaenllaw ar gyfer y DU gyfan. Mae’n olygfa ysblennydd pan fydd tua 18 neu 20 o farcudfyrddwyr allan ar y dŵr.
`Gallai’r Rhyl fod yn lleoliad y mae pobl yn dechrau eu gwyliau antur. Maent yn dod yma, yn aros, efallai’n defnyddio ein cyfleuster, yn mynd allan am rywbeth i’w fwyta a’i yfed, yn mwynhau’r traeth, ac yna’n penderfynu ar le arall i fynd – ond yn defnyddio’r dref fel eu prif gyrchfan’
Mae barcudfyrddio eisoes yn denu pobl i’r Rhyl, ond mae Simon yn credu y gall fod yn llawer mwy o yrrwr i gynyddu nifer yr ymwelwyr.
`Mae pobl yn dod i’r Rhyl o bob man. Gallwn ddechrau dysgu unigolion o 12 oed i fyny ac ma gennym rywun sydd hyd yn oed yn 78 oed. Mae’n hynod o hygyrch. A’r flwyddyn nesaf byddwn yn sefydlu’r parc gwynt cyntaf yn y wlad ar gyfer tonfyrddio, felly pan nad oes gwynt gallaf fynd â phobl allan ar y parc gwynt a’u tynnu gyda sgi-modur.
`Heb os gallwn ddod â’r Daith Pro Kite yma ar gyfer digwyddiadau, ac yn sicr bydd hynny’n rhoi’r lle ar y map.’
Mae Simon yn credu y byddai cyfleuster pwrpasol gyda siop a fyddai hefyd yn ymgorffori atyniadau eraill fel wal ddringo, trampolinau ar gyfer hyfforddiant sgiliau a chaffi yn edrych dros y dŵr yn sicr yn atyniad mawr.
`Byddai cyflenwyr cit ac offer mewn cystadleuaeth â’u gilydd, byddai’n lle i bobl ymlacio ac i edrych allan dros ein hased gorau – y traeth, sydd yn fy marn i’r gorau yn y wlad – a’r gallu i hyfforddi ar drampolinau i berffeithio cylchdroadau a symudiadau dull rhydd yn denu hyd yn oed barcudfyrddwyr proffesiynol yn ogystal ag unigolion sy’n newydd i’r gamp.’